Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


CLA(4)-10-14

 

CLA380 -  Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Yn unol â Chyfarwyddydau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 ("Cyfarwyddydau 2014")  y bydd byrddau iechyd lleol yn sefydlu, fel cyd-bwyllgor, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ("y Cyd-bwyllgor").

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad, aelodaeth a thrafodion y Cyd-bwyllgor a fydd yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau ambiwlans brys i fyrddau iechyd lleol yng Nghymru.

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi creu Cyfarwyddydau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) (Diwygio) 2014.   Effaith ar y cyd y cyfarwyddydau hyn a Chyfarwyddydau 2014 yw dileu'r swyddogaethau cynllunio a symud y ddarpariaeth gwasanaethau ambiwlans brys o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i'r Cyd-bwyllgor.

 

Materion technegol: craffu

 

Yn dilyn Rheol Sefydlog 21.2.(v) (bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ystyr) a (vii) (anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg), gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw i'r Rheoliadau hyn.

 

          Mae paragraff 1(5) yn cyfeirio at enghreifftiau pan na fo anghymhwysedd person yn gymwys mwyach.  Mae'r paragraff hwn yn cyfeirio at benodiad yn "gadeirydd neu'n swyddog-aelod".

Gofynnir am eglurhad ynghylch a yw'r cyfeiriadau at "swyddog-aelod" yn gywir o ystyried bod rheoliad 5(1), sy'n cyflwyno Atodlen 2, ond yn cyfeirio at gymhwysedd ar gyfer penodi cadeirydd.

 

 

“os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau";

 

Mae testun Cymraeg paragraff 1(5)(b) yn cyfeirio at gymhwysedd person i gael ei benodi'n aelod ar y dyddiad rhyddhau, er bod y testun Saesneg yn cyfeirio at gymhwysedd person i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod.

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

17 Mawrth 2014